Y Salmau 38:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn,ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8. Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr,ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon.

9. O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti,ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt.

10. Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu,a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.

11. Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla,ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw.

12. Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau,a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistrac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd.

Y Salmau 38