Y Salmau 37:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

5. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;ymddiried ynddo, ac fe weithreda.

6. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleunia'th uniondeb fel haul canol dydd.

7. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,aros yn amyneddgar amdano;paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.

Y Salmau 37