Y Salmau 37:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg,a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.

20. Oherwydd fe dderfydd am y drygionus;bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân,pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.

21. Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl,ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.

22. Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir,ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.

Y Salmau 37