Y Salmau 35:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawenac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabodyn fy enllibio heb arbed.

16. Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar,ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.

17. O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?Gwared fi rhag eu dinistr,a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.

18. Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,a'th foliannu gerbron tyrfa gref.

19. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.

20. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;ond yn erbyn rhai tawel y wlady maent yn cynllwyn dichellion.

Y Salmau 35