Y Salmau 34:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

10. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

11. Dewch, blant, gwrandewch arnaf,dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.

12. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywydac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?

13. Cadw dy dafod rhag drygionia'th wefusau rhag llefaru celwydd.

14. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,ceisia heddwch a'i ddilyn.

Y Salmau 34