Y Salmau 33:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.

9. Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.

10. Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,a difetha gynlluniau pobloedd.

11. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.

12. Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,ac yn gweld pawb oll;

Y Salmau 33