Y Salmau 33:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,a difetha gynlluniau pobloedd.

11. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.

12. Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,ac yn gweld pawb oll;

14. o'r lle y triga y mae'n gwylioholl drigolion y ddaear.

15. Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,y mae'n deall popeth a wnânt.

Y Salmau 33