Y Salmau 33:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.

2. Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;

3. canwch iddo gân newydd,tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.

4. Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.

5. Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.

6. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.

Y Salmau 33