Y Salmau 25:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.

12. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;

13. fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.

14. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.

15. Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,oherwydd unig ac anghenus wyf fi.

Y Salmau 25