Y Salmau 22:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.

6. Pryfyn wyf fi ac nid dyn,gwawd a dirmyg i bobl.

7. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:

8. “Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”

9. Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,a'm rhoi ar fronnau fy mam;

10. arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.

11. Paid â phellhau oddi wrthyf,oherwydd y mae fy argyfwng yn agosac nid oes neb i'm cynorthwyo.

12. Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;

13. y maent yn agor eu safn amdanaffel llew yn rheibio a rhuo.

14. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,a'm holl esgyrn yn ymddatod;y mae fy nghalon fel cwyr,ac yn toddi o'm mewn;

Y Salmau 22