Y Salmau 22:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.

3. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orsedduyn foliant i Israel.

4. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.

5. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.

6. Pryfyn wyf fi ac nid dyn,gwawd a dirmyg i bobl.

7. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:

Y Salmau 22