Y Salmau 19:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.

6. O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.

7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;

8. y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,yn llawenhau'r galon;y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,yn goleuo'r llygaid;

9. y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,yn para am byth;y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,yn gyfiawn bob un.

Y Salmau 19