Y Salmau 18:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

7. Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.

8. Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

9. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.

10. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

11. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.

12. O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,a chenllysg a cherrig tân.

Y Salmau 18