Y Salmau 148:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Molwch ef, nef y nefoedd,a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.

5. Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;

6. fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd;rhoes iddynt ddeddf nas torrir.

7. Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear,chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,

8. tân a chenllysg, eira a mwg,y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;

9. y mynyddoedd a'r holl fryniau,y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;

Y Salmau 148