Y Salmau 140:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,

2. rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,a phob amser yn codi cythrwfl.

3. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela

4. O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.

5. Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.Sela

Y Salmau 140