Y Salmau 137:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân,a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch.“Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”

4. Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDDmewn tir estron?

5. Os anghofiaf di, Jerwsalem,bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;

6. bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenauos na chofiaf di,os na osodaf Jerwsalemyn uwch na'm llawenydd pennaf.

7. O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edomddydd gofid Jerwsalem,am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hihyd at ei sylfeini.”

Y Salmau 137