Y Salmau 135:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch enw'r ARGLWYDD,molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,

2. sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD,yng nghynteddoedd ein Duw.

3. Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4. Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5. Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

Y Salmau 135