Y Salmau 119:90-97 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

91. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.

92. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;

93. nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.

94. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,oherwydd ceisiais dy ofynion.

95. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.

96. Gwelaf fod popeth yn dod i ben,ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.

97. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.

Y Salmau 119