Y Salmau 119:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd;adfywia fi â'th air.

38. Cyflawna i'th was yr addewida roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.

39. Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni,oherwydd y mae dy farnau'n dda.

40. Yr wyf yn dyheu am dy ofynion;adfywia fi â'th gyfiawnder.

41. Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;

Y Salmau 119