Y Salmau 119:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di,ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.

16. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,ac nid anghofiaf dy air.

17. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,ac fe gadwaf dy air.

18. Agor fy llygaid imi weldrhyfeddodau dy gyfraith.

19. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.

20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.

Y Salmau 119