Y Salmau 119:127-132 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

127. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynionyn fwy nag aur, nag aur coeth.

128. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,a chasâf lwybrau twyll.

129. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;am hynny yr wyf yn eu cadw.

130. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuoac yn rhoi deall i'r syml.

131. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.

132. Tro ataf a bydd drugarog,yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.

Y Salmau 119