Y Salmau 119:123-127 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

123. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.

124. Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.

126. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.

127. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynionyn fwy nag aur, nag aur coeth.

Y Salmau 119