Y Salmau 119:112-116 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

112. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;y mae eu gwobr yn dragwyddol.

113. Yr wyf yn casáu rhai anwadal,ond yn caru dy gyfraith.

114. Ti yw fy lloches a'm tarian;yr wyf yn gobeithio yn dy air.

115. Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.

Y Salmau 119