Y Salmau 119:103-108 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

103. Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

105. Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.

106. Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.

107. Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.

108. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.

Y Salmau 119