Y Salmau 118:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD;atebodd yntau fi a'm rhyddhau.

6. Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf;beth a wna pobl i mi?

7. Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo,a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghasáu.

8. Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried yn neb meidrol.

9. Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried mewn tywysogion.

10. Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

Y Salmau 118