Y Salmau 116:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth,a galw ar enw'r ARGLWYDD.

14. Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDDym mhresenoldeb ei holl bobl.

15. Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDDyw marwolaeth ei ffyddloniaid.

16. O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi,gwas o hil gweision;yr wyt wedi datod fy rhwymau.

17. Rhof i ti offrwm diolch,a galw ar enw'r ARGLWYDD.

18. Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDDym mhresenoldeb ei holl bobl,

Y Salmau 116