Y Salmau 109:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,a dyged estroniaid ei enillion.

12. Na fydded i neb drugarhau wrtho,na gwneud ffafr â'i blant amddifad.

13. Torrer ymaith ei linach,a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.

14. Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,ac na ddileer pechodau ei fam.

15. Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.

16. Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon,ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd,a'r drylliedig o galon hyd angau.

Y Salmau 109