Y Salmau 107:29-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;

30. yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.

31. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

32. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.

33. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34. y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.

35. Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,a thir sych yn ffynhonnau.

36. Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

37. heuant feysydd a phlannu gwinwydd,a chânt gnydau toreithiog.

Y Salmau 107