Y Salmau 106:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.

10. Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,a'u harbed o law'r gelyn.

11. Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr,ac nid arbedwyd yr un ohonynt.

12. Yna credasant ei eiriau,a chanu mawl iddo.

13. Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd,ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.

Y Salmau 106