Y Salmau 106:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifftni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,na chofio maint dy ffyddlondeb,ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.

8. Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,er mwyn dangos ei rym.

9. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.

10. Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,a'u harbed o law'r gelyn.

Y Salmau 106