Y Salmau 106:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

24. Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;

25. yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.

Y Salmau 106