Y Salmau 106:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,

22. pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

24. Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;

25. yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.

26. Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

Y Salmau 106