Y Salmau 104:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth,a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.

32. Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu;pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu.

33. Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw,rhof foliant i Dduw tra byddaf.

34. Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo;yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.

Y Salmau 104