Y Salmau 104:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg,a phlanhigion at wasanaeth pobl,i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,

15. a gwin i lonni calonnau pobl,olew i ddisgleirio'u hwynebau,a bara i gynnal eu calonnau.

16. Digonir y coedydd cryfion,y cedrwydd Lebanon a blannwyd,

17. lle mae'r adar yn nythu,a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.

18. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.

19. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,ac i'r haul wybod pryd i fachlud.

Y Salmau 104