Y Salmau 104:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;

11. rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;

12. y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,ac yn trydar ymysg y canghennau.

13. Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.

Y Salmau 104