Y Pregethwr 8:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

11. Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.

12. Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.

13. Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw.

14. Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.

Y Pregethwr 8