Y Pregethwr 5:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.

2. Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.

Y Pregethwr 5