Y Pregethwr 10:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Os na swynir neidr cyn iddi frathu,nid oes mantais o gael swynwr.

12. Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond geiriau'r ffôl yn ei ddinistrio.

13. Y mae ei eiriau'n dechrau yn ffôl,ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,

14. a'r ffŵl yn amlhau geiriau.Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw,a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei ôl?

15. Y mae llafur y ffôl yn ei wneud yn lluddedig,ac ni ŵyr sut i fynd i'r ddinas.

16. Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat,a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!

Y Pregethwr 10