1. Yna galwodd Tobias Raffael a dweud wrtho,
2. “Asarias, fy mrawd, cymer gyda thi bedwar gwas a dau gamel, a dos ar daith i Rhages. Ar ôl cyrraedd tŷ Gabael, rho iddo'r papur a lofnodwyd. Cymer yr arian yn ôl, ac yna tyrd â Gabael gyda thi i'r wledd briodas.
3-4. “Fel y gwyddost, bydd fy nhad yn cyfrif y dyddiau, ac ni allaf oedi un diwrnod heb achosi gofid mawr iawn iddo. Ond yr wyt ti'n sylwi hefyd sut lw a dyngodd Ragwel; ni allaf fynd yn groes i'w lw ef.”
5. Teithiodd Raffael, felly, ynghyd â'r pedwar gwas a'r ddau gamel i Rhages yn Media, a lletya yn nhŷ Gabael. Rhoddodd y papur i Gabael a'i hysbysu fod Tobias fab Tobit wedi cymryd gwraig, a'i fod yn estyn gwahoddiad iddo i'r briodas. A dyma Gabael ar ei union yn cyfrif iddo y codau a oedd yn dal dan sêl, a chasglwyd hwy at ei gilydd.