Tobit 14:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Â'r geiriau hyn gorffennodd Tobit ei emyn o fawl. Bu farw mewn tangnefedd, ac yntau'n gant a deuddeng mlwydd oed, a chladdwyd ef yn llawn clod yn Ninefe.

2. Yr oedd yn ddwy a thrigain oed pan ddaeth yr anaf ar ei lygaid, ond wedi iddo gael ei olwg yn ôl bu'n byw yn dda ei fyd. Bu'n hael ei gymwynasau, gan fendithio Duw a chlodfori ei fawredd yn gyson.

Tobit 14