Seffaneia 3:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ond gadawaf yn dy fysgbobl ostyngedig ac isel,a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

13. ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd,ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau;oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.”

14. Cân, ferch Seion;gwaedda'n uchel, O Israel;llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem.

15. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,a symud dy elynion.Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,ac nid ofni ddrwg mwyach.

16. Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem,“Nac ofna, Seion,ac na laesa dy ddwylo;

Seffaneia 3