Sechareia 9:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”

14. Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,a'i saeth yn fflachio fel mellten;Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgornac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.

15. Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;llwyddant, sathrant y cerrig tafl,byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,wedi eu trochi fel cyrn allor.

16. Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;bydd ei bobl fel praidd,fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.

17. Mor dda ac mor brydferth fydd!Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,a gwin i'r morynion.

Sechareia 9