Sechareia 9:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrachac yn Namascus, ei orffwysfa.Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram,fel holl lwythau Israel;

2. hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.

3. Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;pentyrrodd arian fel llwch,ac aur fel llaid heol.

4. Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddoac yn difetha ei grym ar y môr;ac ysir hithau yn y tân.

Sechareia 9