Sechareia 14:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.

7. A bydd yn un diwrnod—y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD—heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.

8. Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i fôr y dwyrain a'u hanner i fôr y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf.

9. Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un.

10. Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin.

11. Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.

Sechareia 14