Sechareia 10:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd,eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant,a magu plant, a dychwelyd.

10. Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft,a chasglaf hwy o Asyria;dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanonhyd nes y byddant heb le.

11. Ânt trwy fôr yr argyfwng;trewir tonnau'r môr,a sychir holl ddyfnderoedd y Neil.Darostyngir balchder Asyria,a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.

12. Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD,ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.

Sechareia 10