Rhufeiniaid 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn awr, felly, nid yw'r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath.

2. Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.

3. Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.

Rhufeiniaid 8