Rhufeiniaid 13:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu.

12. Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni.

13. Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd.

14. Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.

Rhufeiniaid 13