Numeri 9:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn ôl y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.’ ”

15. Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel tân drosto, o'r hwyr hyd y bore.

16. Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel tân drosto.

17. Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.

Numeri 9