Numeri 7:61-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

61. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

62. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

63. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

64. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

65. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.

Numeri 7