32. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
33. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
34. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
35. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.
36. Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau: